Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Mawrth 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
I ofyn
i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y
Trefnydd a’r Prif Chwip
Sioned
Williams: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r
effaith ar Gymru yn sgil diwygiadau Llywodraeth y DU i les?
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad.
(5 munud)
NNDM8858 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i'r Aelodau gyfrannu ar fwy nag un achlysur yn ystod y Ddadl Agored ar NDM8839 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 19 Mawrth 2025.
(120 munud)
NDM8839 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?
Cefnogwyr
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
(60 munud)
NDM8857 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.
2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli:
b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac
c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at:
a) y bwriad i ddyrannu ad-daliadau’r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail Fformiwla Barnett, a fyddai’n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr.
b) y diffyg eglurder ynghylch swm llawn y costau i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru o ganlyniad i’r newidiadau hyn, lai na mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei basio.
Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswyriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Mawrth 2025